Fe fydd hi’n haws cael morgais yn y misoedd nesaf wrth i fanciau a chymdeithasau adeiladu ddod yn fwy parod i fenthyg i bobol gyda blaendal o lai na 10%, yn ôl Banc Lloegr.

Daw’r cyhoeddiad wedi i arolwg gan y banc ddarganfod fod llai o alw am forgeisi wedi bod ers canol 2014.

Y gostyngiad yn y galw yw’r mwyaf ers 2008 ac mae rhai benthycwyr yn dweud ei fod yn sgil pryder am brisiau tai a’r ansicrwydd am y farchnad.

Yn ogystal â bod yn fwy parod i gynnig morgeisi, mae arbenigwyr hefyd yn rhagdybio y bydd ffioedd a chyfraddau morgeisio yn gostwng.