Mae adeiladwr wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dynes wedi i’w chorff gael ei ddarganfod mewn fflat yn Bournemouth ddydd Mercher.

Daeth yr heddlu o hyd i gorff Sarah Pollock, 41 am 3.26 brynhawn Mercher, ar ôl i’w chydweithwyr roi gwybod iddyn nhw nad oedd hi wedi agor y siop lle’r oedd hi’n gweithio yn Poole.

Roedd archwiliad post-mortem wedi dangos ei bod hi wedi cael ei thagu a’i thrywanu yn ei gwddf.

Mae Colin Dymond, 52, wedi’i gyhuddo o’i llofruddio, ac fe fydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Bournemouth yfory.