Clarke Carlisle
Mae cyn-beldroediwr wedi dweud nad yw’n teimlo cywilydd yn dilyn ymgais i ladd ei hun.
Ceisiodd Clarke Carlisle ladd ei hun trwy gamu o flaen lori ar ffordd brysur yng Nghaerefrog ym mis Rhagfyr.
Dywedodd ei fod yn “ofnadwy o sâl” ar y pryd, ond fod ganddo bellach “bersbectif gwahanol iawn” ar ei fywyd.
Fe fu Carlisle yng nghae criced yr Oval yn Llundain ddoe yn lansio prosiect i fynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail cyflwr meddwl yn y byd chwaraeon.
Dywedodd: “Mae pobol yn ofalus iawn wrth geisio ochrgamu’r peth – ond does gen i ddim cywilydd.
“Fe geisiais i ladd fy hun oherwydd fy mod i’n ofnadwy o sâl, ond mae hynny wedi newid fy mywyd.
“Fe newidiodd fy mywyd gan fy mod i wedi cael cefnogaeth anhygoel – i ddechrau gan yr ysbyty yn Leeds i’m cadw i’n fyw ac yna gan ysbyty Cygnet yn Harrogate i fy meithrin i’n feddyliol ac i roi cyfarpar a sgiliau newydd i fi.
“Rwy’n sefyll yma heddiw gyda phersbectif gwahanol iawn o ran yr hyn mae’n ei olygu i fod yn fyw yn y byd hwn.
“Mae disgwyliad mawr eich bod chi wedi gwella unwaith rydych chi’n dod allan o’r ysbyty – ond dydych chi ddim.”
Siartr
Roedd Dirprwy Brif Weinidog Prydain, Nick Clegg yn lansiad y Siartr Iechyd Meddwl ar gyfer Chwaraeon a Hamdden.
Mae Cymdeithas Bêl-Droed Lloegr, Undeb Rygbi Lloegr, Cymdeithas Tenis Lawnt a Bwrdd Criced Cymru a Lloegr ymhlith y cyrff sy’n cefnogi’r ymgyrch.
Dywedodd Clegg: “Am y tro cyntaf, rydyn ni’n sefyll gyda’n gilydd i helpu i gicio gwahaniaethu ar sail iechyd meddwl allan o’r byd chwaraeon, nid yn unig ar y caeau ond ar draws gaeau chwarae, fel y gallwn ni adeiladu cymdeithas decach lle nad oes rhaid i unrhyw un ddiodde’n dawel.”
Bydd y Siartr hefyd yn annog pobol i ymgymryd â byd y campau er mwyn gwella’u cyflwr meddwl.
Mae Ffederasiwn y Chwaraewyr Proffesiynol wedi dweud bod nifer eu cwnselwyr ar gyfer pêl-droedwyr wedi dyblu yn ystod y tair blynedd diwethaf, gan gydweithio â 143 o chwaraewyr y llynedd.
Mae nifer y cricedwyr sydd yn ceisio cymorth wedi dyblu bob blwyddyn ers tair blynedd.