'Jihadi John' - llun o fideo IS
Mae gwasanaethau cudd MI5 yn dod dan bwysau ar ôl adroddiadau sy’n honni dweud pwy yw ‘Jihadi John’ y dyn sydd wedi cael ei ffilmio’n lladd gwystlon y mudiad Islamaidd milwrol IS.

Yr honiad yw bod MI5 wedi holi Mohammed Emwazi o Lundainn yn y gorffennol a fod ganddyn nhw wybodaeth amdano.

Ar un llaw, mae pobol yn holi pa wybodaeth oedd ganddyn nhw a sut yr oedd wedi mynd i Syria lle mae wedi’i weld yn llofruddio gwystlon.

Ar y llaw arall, mae mudiad hawliau o’r enw Cage yn mynnu bod ymyrraeth y gwasanaethau cudd wedi helpu i radicaleiddio’r cyn-fyfyriwr.

Ymchwiliad

Fe ddywedodd yr AS profiadol Syr Menzies Campbell y byddai Pwyllgor Cudd-Wybodaeth a Diogelwch y senedd yn debyg o gynnal ymchwiliad i’r mater ar ôl yr etholiad cyffredinol.

Mae teuluoedd rhai o’r gwystlon, gan gynnwys gwraig y Prydeiniwr David Haines, wedi dweud eu bod eisiau gweld Mohammed Emwazi yn mynd o flaen ei well.

Fe fyddai hynny’n rhoi “boddhad moesol”, meddai Dragana Haines wrth y BBC – er fod merch David Haines, Bethany, eisiau gweld ‘Jihadi John’ yn cael ei ladd.

‘Annhegwch’

Ond mae’r mudiad Cage yn mynnu bod teimlad o annhegwch yn arwain at radicaleiddio pobol fel Mohammed Emwazi.

“Pryd fyddwn ni’n dysgu, os ydyn ni’n trin pobol fel petaen nhw’n ddieithriaid eu bod nhw am deimlo fel dieithriaid ac y byddan nhw’n chwilio am gael perthyn mewn llefydd eraill,” meddai Asim Qureshi, cyfarwyddwr ymchwil y mudiad.

Mae MI5, y Llywodraeth a’r heddlu wedi gwrthod cadarnhau mai Mohammed Emwazi yw ‘Jihadi John’.