Fe fydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio heddiw ar ganiatáu creu babis IVF a fydd yn defnyddio DNA tri pherson.
Petai’r cael ei gymeradwyo fe all Prydain fod y lle cyntaf yn y byd i ganiatáu’r broses.
Y bwriad yw ceisio atal clefydau difrifol sy’n cael eu hetifeddu.
Fe fydd ASau yn cael pleidlais rydd ar ddiwedd dadl 90 munud yn y Senedd ynglŷn â’r diwygiad dadleuol i’r Ddeddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 2008.
Mae Eglwys Loegr yn dadlau y byddai’n anfoesol newid y gyfraith ond dywedodd yr Arglwydd Dafydd Wigley ar y Post Cyntaf y bore ma bod y broses yn rhoi rhywfaint o obaith o oresgyn problemau sy’n wynebu pobl sydd â chyflwr geneteg ac yn osgoi poen iddyn nhw.
Bu farw dau o feibion Dafydd Wigley o ganlyniad i gyflwr geneteg.