Mae Gwylwyr y Glannau wedi rhoi’r gorau i chwilio am ddyn 51 oed ddiflanodd wrth wasgaru lludw yn y môr yng Nghernyw.
Diflanodd y dyn brynhawn Sadwrn oddi ar arfordir Porth William.
Aeth dau ddyn i mewn i’r môr i geisio’i achub, ond roedd eu hymdrechion yn aflwyddiannus.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau fod timau chwilio bellach wedi cael eu galw’n ôl.
Bu’n rhaid i Wylwyr y Glannau roi’r gorau i’r chwilio dros dro neithiwr oherwydd y tywydd garw.