Rhybudd o gynnydd mewn dementia (llun o wefan Cymdeithas Alzheimer)
Gofal iechyd, mewnfudo a phoblogaeth sy’n heneiddio yw’r tair her fwyaf y bydd Prydain yn eu hwynebu dros yr 20 mlynedd nesaf, yn ôl pobl a gafodd eu holi ar gyfer arolwg barn.

Dangosodd yr arolwg a gafodd ei gomisiynu gan yr elusen ar gyfer pobl hŷn, Independent Age, fod 79% o’r 2,421 o oedolion a holwyd yn credu y bydd y boblogaeth sy’n heneiddio’n achosi problemau mawr.

Meddai prif weithredwr Independent Age, Janet Morrison: “Mae’n bwysig fod pobl wedi adnabod y boblogaeth sy’n heneiddio fel un o’r prif faterion sy’n wynebu’n cymdeithas a chydnabod fod hyn yn rhywbeth a fydd yn dal i dyfu dros y ddau ddegawd nesaf.

“Mae’r canfyddiadau’n awgrymu bod angen paratoi dull o ymdrin â heneiddio a phobl hŷn er mwyn sicrhau nad yw’n cael ei wynebu ag ofn ond gydag agwedd gadarnhaol ac optimistaidd.”

Cynnydd mewn dementia

Dywedodd George McNamara o Gymdeithas Alzeimer, fod angen gweinidog dros bobl hŷn yn y Cabinet.

“Mae’r ffaith fod pobl yn byw’n hŷn yn sgil datblygiadau mewn ymchwil feddygol ac iechyd cyhoeddus yn rhywbeth i’w ddathlu,” meddai.

“Fodd bynnag, gan mai oedran yw’r ffactor risg mwyaf mewn dementia, mae’r niferoedd sy’n dioddef yn cynyddu’n ddramatig.

“Nid yw’r system iechyd a gofal cymdeithasol yn gallu darparu’n iawn ar eu cyfer. Gydag ysbytai o dan bwysau anferthol, mae’n amlwg na fydd mwy o’r un peth yn gweithio.

“Mae arnom angen diwygio sylfaenol a fydd yn dod ag iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd ac yn rhoi diwedd ar doriadau mewn gofal a chymorth cymunedol.”