Mae cyn-Ysgrifennydd Cyfiawnder yr Alban, Kenny McAskill wedi dweud bod ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ yn enghraifft dda o gân boblogaidd sydd wedi cael ei mabwysiadu fel anthem genedlaethol.

Gwnaeth McAskill ei sylwadau wrth drafod deiseb gan fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberdeen, sy’n galw ar Senedd yr Alban i fabwysiadu ‘Flower of Scotland’ yn anthem genedlaethol swyddogol.

Mae’n cael ei chanu eisoes mewn gemau rygbi a phêl-droed, ond does ganddi ddim statws swyddogol ar hyn o bryd.

Yn ôl deiseb gan y myfyriwr Chris Cromar, fe fyddai ei mabwysiadu yn uno’r genedl.

Er bod y pwyllgor deisebau’n cytuno ag egwyddor y ddeiseb, roedd y ddeiseb wedi hollti barn ynghylch ai ‘Flower of Scotland’ yw’r dewis mwyaf addas ar gyfer anthem genedlaethol.

Roedd rhai yn dadlau bod ‘Flower of Scotland’ yn annog gwrth-Seisnigrwydd oherwydd natur ymfflamychol ei geiriau, a phenderfynodd y pwyllgor y dylid ystyried opsiynau eraill hefyd.

Cafodd ‘Flower of Scotland’ ei hysgrifennu gan Roy Williamson ac mae’n cynnwys cyfeiriadau at frwydr Bannockburn yn erbyn y Saeson.

Ond yn ôl Chris Cromar, mae’r gân yn cynnig dadansoddiad cytbwys o’r frwydr.

Dadleuodd fod y gân yn uno’r Albanwyr beth bynnag am eu gwleidyddiaeth.

Mae’r pwyllgor deisebau wedi gofyn i Senedd yr Alban ystyried y ddeiseb ac i gynnal ymgynghoriad.