Sellafield
Mae consortiwm preifat wedi colli cytundeb gwerth biliynau o bunnoedd i gynnal safle gwastraff niwclear yn Sellafield.

Cadarnhaodd y Llywodraeth heddiw y byddan nhw’n dod a’r cytundeb £9 biliwn a ddyfarnwyd i  Nuclear Management Partners (NMP) i ben, gan ddweud y bydd y gwaith yn cael ei wneud o hyn ymlaen gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA).

Roedd y consortiwm diwydiannol – y grŵp peirianneg URS o’r Unol Daleithiau, y cwmni Prydeinig AMEC a’r cwmni ynni Ffrengig AREVA – wedi cynnal y safle am fwy na chwe blynedd, a rhoddwyd estyniad o bum mlynedd i’r consortiwm yn 2013 er gwaethaf beirniadaeth gan undebau o’i berfformiad.

Enillodd NMP, sy’n cyflogi 10,000 o weithwyr, y cytundeb 17 mlynedd yn 2008.

Dywedodd yr NDA fod adolygiad blwyddyn o hyd wedi dod i’r casgliad y byddai “symleiddio” ei berthynas â Sellafield yn dod a “mwy o eglurder a ffocws” ac yn sicrhau gwerth am arian.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni a Newid Hinsawdd Ed Davey: “Sellafield yw’r safle niwclear mwyaf, a mwyaf cymhleth, yn Ewrop, felly mae’n briodol ein bod yn adolygu’n gyson y modd mae’n cael ei reoli.

“Rydym wedi gweld enghreifftiau gwych o sut y gall y dull hwn weithio gyda Crossrail a’r Gemau Olympaidd – ac rwy’n hyderus y byddwn yn gweld canlyniadau tebyg yn Sellafield.”