Mae bron i hanner dynion gwledydd Prydain yn teimlo’n isel neu’n drist dros gyfnod y Nadolig, yn ol canlyniadau arolwg newydd gan elusen y Samariaid.

Mae’r arolwg ar-lein yn dangos fod 48% o ddynion yn cyfadde’ eu bod yn teimlo’n drist neu’n isel yn ystod mis Rhagfyr.

Ac, o blith y dynion a gafodd eu holi, mae 45% yn dweud eu bod yn teimlo’n fwy pryderus yr adeg yma o’r flwyddyn nac ar unrhyw adeg arall. Mae 37% yn cydnabod eu bod yn unig, ac mae 30% yn disgrifio eu teimladau fel rhai llawn straen a phryder.

I nifer o bobol, maen nhw’n teimlo straen oherwydd y disgwyliad y dylai pawb gael amser da. Mae 45% yn cwyno eu bod dan bwysau i fod yn hapus, pan nad ydyn nhw’n teimlo felly mewn gwirionedd.