Paul McCartney
Mae Paul McCartney wedi bod yn trafod y sioc a gafodd pan glywodd am farwolaeth ei gyd-aelod o’r Beatles, John Lennon… a’r rhyddhad eu bod wedi “dod yn ol at ei gilydd” ychydig cyn hynny.

Mewn cyfweliad onest a fydd yn cael ei ddarlledu ar raglen Jonathan Ross ar ITV heno, mae Paul McCartney am farwolaeth y cerddor ym mis Rhagfyr 1980.

“Ro’n i adre’, ac mi ges i alwad,” meddai. “Roedd hi’n fuan iawn yn y bore… Roedd mor frawychus, doedd dim posib derbyn y peth, ac mi fues i felly am ddyddiau yn methu derbyn ei fod o wedi mynd… Roedd yn gymaint o sioc… Roedd yn anodd i bawb.”

Ers y 1970au, roedd y berthynas rhwng y ddau ohonyn nhw wedi bod yn un stormus ac anodd, ond, meddai Paul McCartney, roedden nhw wedi claddu’r gorffennol ychydig cyn marwolaeth John Lennon ar ddiwedd 1980.

“I fi, y tristwch oedd na faswn i byth yn ei weld o eto,” meddai Paul McCartney.

“A’r cyfan oherwydd y ‘jerk’ yma efo gwn… Doedd hi ddim hyd yn oed yn weithred wleidyddol… jyst un o’r pethau hollol random yna mewn bywyd…”