Mae dioddefwyr canser hŷn yn llawer llai tebygol o gael llawdriniaeth na phobol iau sydd yn dioddef o’r afiechyd, yn ôl ymchwil gan un o’r prif elusennau yn y maes.
Dywedodd Cancer Research UK bod cleifion rhwng 15 a 54 oed ddwywaith yn fwy tebygol o gael llawdriniaeth ar gyfer rhai mathau o ganser na phobol rhwng 75 ac 84.
Yn ôl Nick Ormiston-Smith, pennaeth ystadegau Cancer Reasearch UK, roedd hyn yn dangos “y rhagfarn oed sydd yn wynebu cleifion canser hŷn”.
Data’r ymchwil
Yn ôl ffigurau’r elusen roedd cleifion rhwng 15 a 54 oed yn fwy tebygol o gael llawdriniaeth ar gyfer 19 math gwahanol o ganser.
Roedd cleifion canser yr arennau o dan 55 oed ddwywaith yn fwy tebygol na rhai rhwng 75 ac 84 i gael triniaeth – a dim ond 10% o gleifion dros 85 oed oedd yn cael triniaeth.
Roedd y gyfradd o gleifion iau sy’n cael llawdriniaeth yn llawer uwch ar gyfer canser y fron, yr ysgyfaint a’r coluddyn hefyd – y tri chanser sydd yn lladd mwyaf o bobl.
Y manylion
- Roedd 76% o gleifion canser y fron dan 55 yn cael llawdriniaeth, o’i gymharu â 26% o’r rheiny dros 85 oed.
- Dim ond 15% o gleifion canser yr ysgyfaint dan 55 oed a gafodd lawdriniaeth, ond roedd y gyfradd i gleifion dros 85 yn llai nag 1%.
- Roedd bwlch hefyd yn y cyfraddau ar gyfer llawdriniaethau canser y coluddyn, gyda dau o bob tri chlaf dan 55 yn derbyn y driniaeth o’i gymharu â 39% o’r rheiny dros 85%.
Deall y rhesymau
Fe allai hanes meddygol claf fod yn un ffactor sydd yn esbonio’r gwahaniaeth yn y cyfraddau llawdriniaeth, yn ôl un meddyg.
“Mae llawfeddygon yn ystyried nifer o ffactorau wrth benderfynu a ydyn nhw am gynnig llawdriniaeth i gleifion canser hŷn,” esboniodd Dr Mick Peake o rwydwaith ymchwil canser NCIN.
“Mae hyn yn cynnwys os oes gan yr unigolyn afiechydon eraill, a dewis personol y claf.”
Ychwanegodd Nick Ormiston-Smith o Cancer Research UK bod angen gwneud rhagor o ymchwil er mwyn deall pam nad yw rhai pobl hŷn ddim yn dewis cael llawdriniaeth.