Y bws ysgol wedi'r ddamwain yn Henffordd
Mae mwy nag 20 o bobl, y rhan fwyaf ohonyn nhw’n blant ysgol, wedi cael eu cludo i’r ysbyty ar ôl i’r bws roedden nhw’n teithio ynddo droi drosodd yn Henffordd.

Cafodd mwy na 50 o bobl eu hasesu a’u trin gan staff y gwasanaeth ambiwlans yn dilyn y ddamwain yn Heol Holme Lacy toc wedi 8.20 y bore ma.

Cafodd gyrrwr y bws a 25 o deithwyr, y credir sy’n ddisgyblion ysgol tua 14 oed, eu cludo i Ysbyty Henffordd i gael triniaeth am fan anafiadau.

Roedd holl deithwyr y bws, ar wahân i’r gyrrwr, wedi llwyddo i ddianc o’r cerbyd cyn i’r gwasanaethau brys gyrraedd, meddai llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans West Midlands.

Mae’r gyrrwr benywaidd wedi cael anafiadau i’w brest a’i stumog.