Mae dyn wedi’i arestio wedi i wraig gael ei chanfod wedi’i saethu’n farw ger maes pêl-droed Arsenal.

Roedd gan y wraig anafiadau difrifol pan ganfuwyd hi yn Loraine Road yn Holloway, gogledd Llundain tua 9.35yb heddiw, a bu farw yn y fan a’r lle.

Mae heddlu Scotland Yard wedi cadarnhau fod dyn 38 mlwydd oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, a’i fod bellach yn y ddalfa.

Mae gwn hefyd wedi cael ei gymryd er mwyn cynnal profion fforensig arno.

Dyw hi ddim yn glir eto p’un ai oedd y dyn a’r ddynes yn adnabod ei gilydd.