Mae pump o weithwyr eraill wedi cael eu taro’n wael ym mhentre’ athletwyr Gemau’r Gymanwlad yn yr Alban.

Mae’r nifer sy’n diodde’ o’r hyn y mae meddygon yn ei ystyried yn norofeirws, bellach wedi cyrraedd 53.

Fe gadarnhaodd llefarydd fod pump o swyddogion diogelwch wedi ffonio i ddweud na fyddan nhw’n y gwaith heddiw, yn cwyno o salwch a dolur rhydd.

Does yr un athletwr na swyddogion yr un o’r timau wedi cael eu taro’n wael hyd yma.

Yn y cyfamser, mae toiled dros-dro wedi cael ei gau yn y pentre’ yng ngorllewin dinas Glasgow.

Fe fydd y Gemau’n cychwyn ddydd Mercher nesa’.