300 o staff sy’n mynd i Glastonbury yn Somerset, o gymharu â 272 sy’n mynd i Frasil.

Prif atyniadau Glastonbury eleni yw Arcade Fire, Kasabian, Metallica, Robert Plant a Dolly Parton.

Bydd 17 o gyflwynwyr y BBC yn darlledu o’r ŵyl sydd wastad yn destun dadlau – eleni mae’r ffrae ynghylch priodoldeb presenoldeb y band metel trwm Metallica ar y prif lwyfan.

Llai i Gwpan y Byd

295 o weithwyr anfonodd y BBC i Gwpan y Byd De Affrica yn 2010, felly mae’r nifer yn mynd i Frasil – 272 – yn is.