Abdelbaset al-Megrahi
Mae teulu’r dyn o Libya gafwyd yn euog o ladd 270 o bobol trwy fomio awyren yn Lockerbie yn 1988 yn bwriadu lansio apêl o’r newydd.

Cafwyd Abdelbaset al-Megrahi yn euog o lofruddiaeth mewn llys yn yr Iseldiroedd yn 2001, a’i ddedfrydu i o leiaf 27 o flynyddoedd yn y carchar.

Bu farw ddwy flynedd yn ôl.

Mae dau gais yn y gorffennol i gynnal apêl wedi cael eu gwrthod ac mae ei deulu – ynghyd â theuluoedd rhai o’r bobol fu farw – yn bwriadu cyflwyno cais newydd.

Heddiw mewn cynhadledd i’r wasg, daeth cadarnhad bod cais yn cael ei gyflwyno i Gomisiwn Adolygu Achosion Cyfreithiol yr Alban, y corff sy’n ymchwilio i achosion posib o anghyfiawnder.

Mae gan y corff yr hawl i drosglwyddo’r achos i’r Uchel Lys.

Megrahi yw’r unig un hyd yma sydd wedi ei ganfod yn euog o fomio awyren Pan Am 103 oedd yn hedfan dros yr Alban ar Ragfyr 21, 1988.

Rhoddodd y gorau i ail apêl yn 2009 pan gafodd wybod ei fod yn marw o ganser.

Cafodd ei ryddhau o’r carchar gan Lywodraeth yr Alban yn ddiweddarach.