Llys y Goron Bryste
Fe fydd Vincent Tabak yn wynebu prawf yn Llys y Goron Bryste ym mis Medi tros luniau pornograffig o blant.
Fe fydd Tabak, sy’n hanu o’r Iseldiroedd, yn wynebu pedwar cyhuddiad o fod â llun a/neu lun ffug-bornograffig o blentyn yn ei feddiant, a dau gyhuddiad o greu delweddau pornograffig o blentyn.
Honnir bod y lluniau yn ei feddiant rhwng Ionawr 2009 a Ionawr 2011, ac fe gawson nhw eu darganfod ar ei gyfrifiadur.
Cafodd 46 o ddelweddau a gafodd eu creu gan Tabak eu darganfod ar ddau ddreif caled yng Nghaerfaddon a Bryste yn 2009.
Roedden nhw ymhlith 200 o ddelweddau tebyg ar ei gyfrifiadur pan gafodd ei arestio ddwy flynedd yn ôl.
Cafodd gwrandawiad ei gynnal y bore ma, ac fe ymddangosodd Tabak trwy gyswllt fideo.
Cafodd ei “ryddhau” ar fechnïaeth tan y gwrandawiad nesaf ar Awst 26, cyn sefyll ei brawf ar Fedi 8.