Fe fu’n rhaid i fam a dau o blant ddianc o’u cerbyd ar ôl iddo orboethi yng nghanol llewod yn crwydro’n rhydd mewn parc safari yn ne Lloegr.
Llwyddodd swyddogion parc Longleat yn Wiltshire i’w trosglwyddo i un o’u cerbydau cyn i’r car fynd ar dân.
Dywedodd llefarydd ar ran y parc na chafodd neb – nac unrhyw lew ychwaith – eu hanafu yn y digwyddiad brynhawn ddoe.
Fe fu’n rhaid cau’r parc am tua chwarter awr i gadw llewod draw tra bod y tân yn cael ei ddiffodd a’r car yn cael ei symud oddi yno.