George Alagiah
Mae’r cyflwynydd newyddion George Alagiah yn dioddef o ganser y coluddyn ac ni fydd yn ymddangos ar y teledu yn y dyfodol agos, meddai’r BBC heddiw.

Mae Alagiah, 58 oed, wedi bod yn wyneb cyfarwydd ar fwletinau newyddion am nifer o flynyddoedd. Bu’n cyflwyno rhaglen newyddion BBC 1 am 6yh ers 2007.

Mewn datganiad dywedodd y BBC bod y darlledwr yn “optimistaidd” y bydd canlyniad positif.

Dywedodd y BBC y bydd wynebau cyfarwydd o raglenni newyddion y BBC yn llenwi’r bwlch am y tro.