Mo Farah gyda'i wraig, Tania
Mae’r rhedwr, Mo Farah, yn credu fod ganddo siawns go lew o ennill Marathan Llundain eleni – er mai dyma fydd y tro cynta’ iddo ei rhedeg ar ei hyn.

Mewn cyfweliad gyda chylchgrawn Runner’s World, mae’r enillydd Olympaidd 31 mlwydd oed yn dweud: “Mi fedrwn i ei hennill hi.”

Fe ddaeth yn ail mewn marathon yn Efrog Newydd fis diwetha’, ac fe ddaeth i amlygrwydd trwy gipio’r aur yn y rasus 5,000m a 10,000m yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012.

“Dw i ddim eisiau dweud yn bendant fy mod i’n mynd i ennill yn Llundain eleni,” meddai Mo Farah, “ond dw i’n teimlo’n dda.

“Mae gen i siawns dda. Fe fydd prif redwyr y byd i gyd yn Llundain eleni, ond wyddoch chi be? Dw i’n un o brif redwyr y byd hefyd, felly dw i’n mynd amdani…

“Os wna’ i bob peth sydd ei angen, a gwneud pob peth dw i wedi ei drafod gyda fy hyfforddwr, mi allwn i groesi’r llinell yn gynta’.”