Mae’r Llywodraeth yn ymgynghori ar ffyrdd o fynd i’r afael â chwmnïau marchnata sy’n peri niwsans i’r cyhoedd gyda galwadau ffôn parhaus.

Mae’r Ysgrifennydd Diwylliant Maria Miller yn awyddus i’w gwneud hi’n haws i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth gymryd camau yn erbyn cwmnïau.

Derbyniodd y Comisiynydd Gwybodaeth 120,310 o gwynion am alwadau ffôn marchnata a gafodd eu gwneud rhwng Ebrill a Thachwedd y llynedd.

Ar hyn o bryd, rhaid i’r galwadau achosi ‘straen sylweddol’ neu ‘ddifrod sylweddol’ cyn y gall y Comisiynydd osod cosbau, ond dywed Maria Miller y bydd yr ymgynghoriad yn ystyried a ddylid gostwng y trothwy.

“Rhaid i alwadau niwsans ddod i ben,” meddai. “Ar y gorau maen nhw’n tramgwyddo, ar y gwaethaf maen nhw’n peri gofid ac ofn gwirioneddol, yn enwedig i’r henoed a’r rhai sy’n gaeth yn eu cartrefi.

“Mae angen i bobl allu teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi. Mae’r rheolau’n glir – mae gan bobl hawl i beidio â derbyn galwadau marchnata digymell. Fe fyddwn yn gweithio i sicrhau bod eu dewis yn cael ei barchu.”