Bydd un o’r banciau sy’n eiddo i’r llywodraeth yn talu gwerth £13.1 miliwn o fonws i’w staff at gyfer 2010 – er bod y cwmni wedi gwneud colledion cyn-treth o £232.4 miliwn y llynedd.

Bydd 4,500 o staff banc Northern Rock, a gafodd ei brynu gan y Llywodraeth yn 2008, yn derbyn 10% o fonws ar ben eu cyflog yn 2010.

Fodd bynnag, ni fydd y Cadeirydd, Ron Sandler, yn derbyn bonws ar ben ei gyflog o £250,000 y flwyddyn.

Cyhoeddodd y cwmni golledion cyn-treth o £232.4 miliwn heddiw.

Ond mae’r cwmni’n dweud nad yw hynny’n adlewyrchu’r gwelliant a wnaed yn chwe mis olaf 2010, pan dorrwyd y golled o £140 miliwn rhwng Ionawr-Mehefin, i £92.4 miliwn rhwng Gorffennaf-Rhagfyr.

Mae’r banc y parhau i weithio’n agos gyda’r corff arolygol UKFI, sy’n cadw llygad ar asedau bancio y Llywodraeth, gyda’r gobaith o roi’r cwmni yn ôl i berchnogaeth preifat yn y pen draw.

Cafodd Northern Rock ei wladoli yn Chwefror 2008 mewn cam annisgwyl gan y Llywodraeth Lafur ar y pryd i’w atal rhag mynd i’r wal yn ystod yr argyfwng ariannol.