Mae mwy na 100 o staff Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cael eu derbyn ar gyfer diswyddiadau gwirfoddol ond mae undebau’n ofni y bydd llawer mwy yn colli eu swyddi unwaith y bydd yr argyfwng llifogydd wedi tawelu.

Dywedodd yr asiantaeth, yn dilyn cyfarfod gyda swyddogion undeb, y bydd mwy o staff yn cael eu derbyn ar gyfer diswyddiadau gwirfoddol yn y dyfodol.

Mae undebau wedi rhybuddio y gall hyd at 1,700 o swyddi gael eu colli yn Asiantaeth yr Amgylchedd a hynny er gwaetha’r llifogydd oedd wedi effeithio nifer o lefydd yn y DU dros yr wythnosau diwethaf.