Fe fydd y Tywysog William yn achub dyn o dop bws suddedig yn Llyn Tegid yr wythnos yma.

Dyma un o gyfres o ymarferion £1.8 miliwn yn ystod yr wythnos nesaf a fydd yn profi a ydi Cymru a Lloegr yn barod ar gyfer llifogydd dinistriol.

Fe fydd Ymarfer Watermark yn cynnwys tua 10,000 o bobol, 10 o adrannau Llywodraeth San Steffan, y gwasanaethau brys, a cymunedau cyfan.

Dyma’r “ymarfer amddiffyn sifil mwyaf erioed” yn ôl un gweinidog.

Trefnwyd yr ymarfer yn dilyn y llifogydd yn 2007 effeithiodd ar rannau o Swydd Efrog, Canolbarth Lloegr a Chernyw.

‘Un ymhob chwech cartref mewn perygl’

Dros yr wythnos nesaf fe fydd Ymarfer Watermark yn profi pa mor barod yw’r gwasanaethau brys, y llywodraeth, ac awdurdodau lleol ar gyfer llifogydd.

“Mae cynnydd mewn tywydd eithafol yn golygu fod yn rhaid i ni baratoi ar gyfer llifogydd difrifol,” meddai’r Gweinidog Amgylcheddol, Richard Benyon.

Dywedodd fod y llywodraeth yn gobeithio gwarchod 145,000 o dai rhag llifogydd dros y pedwar neu bum mlynedd nesaf.

“Mae un ymhob chwech cartref yng Nghymru a Lloegr mewn perygl o lifogydd,” meddai cadeirydd Asiantaeth yr Amgylchedd, yr Arglwydd Chris Smith.

“Rydw i’n annog pawb sydd mewn perygl i wneud cais am rybudd llifogydd gan Asiantaeth yr Amgylchedd.”