Y Canghellor George Osborne
Mae’n rhaid i’r Canghellor “ganolbwyntio yn gyfan gwbl ar dwf yn yr economi ac annog Prydain i weithio eto” yn ei gyllideb nesaf.

Mae ‘llais busnes’ y CBI wedi rhestru ei flaenoriaethau cyn Adolygiad Twf y Llywodraeth, fydd yn cael ei ddatgelu’r un diwrnod a’r Gyllideb nesaf, ar 23 Mawrth.

Mewn llythyr at George Osborne mae’r CBI wedi galw ar y Llywodraeth i ganolbwyntio ar allforion a llacio’r cyfyngiadau ar fusnesau er mwyn caniatáu iddyn nhw ffynnu.

Dylai’r Llywodraeth hefyd dorri trethi, meddai’r CBI, am eu bod nhw yn atal pobol rhag mentro ym myd busnes.

“Mae’n rhaid i’r gyllideb yma ddangos bod y llywodraeth yn canolbwyntio ar dwf ac yn benderfynol o annog pobol Prydain i weithio eto,” meddai’r llythyr.

“Rhaid i ni weld cyllideb sydd o fudd i allforion, buddsoddiadau, a swyddi.”

Rhybuddiodd y CBI y byddai cynllun y llywodraeth i gynyddu’r dreth ar danwydd hefyd yn gwneud drwg i economi Prydain.

Awgrymodd y Canghellor George Osborne mewn araith yng Nghaerdydd dydd Sadwrn ei fod yn ystyried diddymu’r cynnydd sydd i fod i ddod i rym y mis nesaf.