Arglwydd Rennard (Llun: PA)
Fe allai ymddygiad un o arglwyddi’r Democratiaid Rhyddfrydol fod yn destun ymchwiliad arall.

Mae disgwyl i’r Arglwydd Rennard ddychwelyd i Dy’r Arglwyddi ddydd Llun, ond mae arweinydd y blaid wedi dweud na ddylai wneud hynny cyn ei fod yn ymddiheuro i ferched sy’n honni fod Arglwydd Rennard wedi camymddwyn yn rhywiol.

Mae’r arglwydd yn gwadu’r honiadau yn ei erbyn.

Nawr, mae swyddogion y Democratiaid Rhyddfrydol bellach yn dweud ei fod yn dwyn anfri ar y blaid trwy beidio ag ymddiheuro – a dyna allai esgor ar broses ddisgyblu newydd.