Mae un o gynghorwyr lleol y blaid Ukip wedi dweud mai ar benderfyniad Llywodraeth Prydain i gyfreithloni priodasau hoyw y mae’r bai am y stormydd a’r llifogydd diweddara’ i daro Cymru a Lloegr.

Meddai David Silvester, a adawodd y blaid Geidwadol at Ukip oherwydd cefnogaeth David Cameron i briodasau rhwng pobol o’r un rhyw, roedd y polisi’n bownd o ddiweddu mewn “trychinebau”.

“Mae’r wlad wedi’i throch gan stormydd oherwydd fod Mr Cameron wedi ymddwyn yn amharchus tuag at yr Efengyl,” meddai cynghorydd Henley-on-Thames mewn llythyr at bapur yr Henley Standard.

“Mae’r ysgrythur yn dweud yn glir fod unrhyw genedl Gristnogol sy’n rhoi’r gorau i’w ffydd gan weithredu’n groes i’r Efenygl, yn mynd i gael ei tharo gan drychinebau naturiol fel stormydd, afiechydon a rhyfel.”