Senedd yr Alban
Fe fydd Llywodraeth Prydain yn codi amheuon am allu Alban annibynnol i fod yn rhan awtomatig o’r Undeb Ewropeaidd.

Fe fyddan nhw hefyd yn awgrymu na fyddai’r Alban yn gallu cael telerau mor ffafriol â’r Deyrnas Unedig.

Mae’r datganiad, gan yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague, a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, yn rhan o ymgyrch Llywodraeth Prydain yn erbyn annibyniaeth.

Fe fydd y ddau’n teithio i’r Alban i gyhoeddi’r diweddara’ mewn cyfres o bapurau gwrthwynebus, gan ddweud y byddai’n rhaid i aelod newydd o’r Undeb ymuno gydag arian yr Ewro hefyd.

Ateb Llywodraeth yr Alban

Mae eu dadleuon yn mynd yn hollol groes i farn Llywodraeth yr Alban sy’n dweud y bydd hi’n bosib trafod aelodaeth o’r Undeb o’r tu mewn, heb orfod gadael.

Yr wythnos yma, roedd Dirprwy Brif Weinidog yr Alban yn mynnu y byddai’r Alban ar ei hennill yn ariannol o fod yn aelod annibynnol o’r Undeb, trwy ragor o arian at amaethyddiaeth, er enghraifft.

Ac, yn ôl Nicola Sturgeon, fe allai refferendwm Llywodraeth Prydain ar aelodaeth o’r Undeb olygu y gallai’r Alban orfod gadael petai’n aros o fewn y Deyrnas Unedig.