Mae’r Blaid Lafur yn rhoi pwysau ar y Canghellor i atal unrhyw gais gan Fanc Brenhinol yr Alban (RBS) i ddyblu’r uchafswm ar daliadau bonws i’w staff.

Yn ôl y Financial Times mae disgwyl i RBS wneud cais i roi taliadau bonws sydd ddwywaith yn fwy na chyflog y staff, cyhyd a bod y cyfranddalwyr yn cymeradwyo’r cais.

Ond mae’r Blaid Lafur yn galw ar y Llywodraeth, sy’n berchen cyfran o’r banc, i wrthod y cais i godi’r uchafswm ar daliadau bonws.

Dywedodd llefarydd y Trysorlys yr wrthblaid Chris Leslie: “Mewn cyfnod pan mae teuluoedd yn wynebu argyfwng oherwydd costau byw uchel ac mae banciau’n gwrthod benthyg i fusnesau, ni fyddai’n briodol i George Osborne gymeradwyo dyblu’r uchafswm ar daliadau bonws.”

Fe fydd y mater yn cael ei drafod yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw fel rhan o drafodaeth ehangach ar fethiant y Llywodraeth i reoli’r banciau.