Bydd yn rhaid i bob rhan o’r Deyrnas Unedig gytuno cyn y bydd y clociau yn cael eu symud ymlaen awr yn barhaol, meddai’r Llywodraeth heddiw.
Mae’r cynllun i gefnu ar amser Greenwich wedi denu cefnogaeth penaethiaid twristiaeth, sy’n honni y byddai’r nosweithiau hirach, goleuach, yn denu mwy o ymwelwyr.
Ond mae eraill yn pryderu y byddai’r tywyllwch boreol yn yr Alban a Gogledd Lloegr yn arwain at fwy o ddamweiniau ar y ffyrdd.
‘Mesur Arbed Golau Dydd’
Mae’r Mesur Arbed Golau Dydd sy’n cael ei ystyried gan y Senedd yn galw ar y Llywodraeth i ystyried manteision troi’r clociau ymlaen awr am y flwyddyn gyfan yn hytrach na’r haf yn unig.
Mae’r gweinidog twristiaeth, John Penrose, yn dweud ei fod yn “rhywbeth y mae angen i’r diwydiant twristiaeth ymgyrchu’n weddol daer drosto”.
Ond ychwanegodd na fyddai unrhyw “ddatblygiad yn y maes hwn yn digwydd heb gytundeb gan bob rhan o’r Deyrnas Unedig”.
“Dyw e ddim yn rhywbeth y byddwn i’n dymuno’i orfodi ar yr Alban na Gogledd Iwerddon,” meddai.
Ond mae’r AS Ceidwadol Anne McIntosh wedi dweud na fyddai “ boreau oerach a thywyllach yn help o gwbl i Ogledd Swydd Efrog”.
“Dwi’n gobeithio y byddan nhw’n rhoi’r gorau i’r ymgynghoriad hyn,’ meddai, “fydd e’n gwneud dim byd i helpu twristiaeth yng Ngogledd Swydd Efrog.”