Mae bachgen chwe blwydd oedd a aeth ar goll tra’n reidio beic cwad mewn chwarel, wedi ei ganfod yn ddiogel ac yn iach.

Mae Heddlu Swydd Stafford wedi diolch i’r cyhoedd am eu cymorth i ddod o hyd i’r bachgen ger Loggerheads, yng ngogledd y sir, tua 4.30yp heddiw.

Roedd hofrennydd yr heddlu, ynghyd a swyddogion heddluoedd Staffordshire a West Mercia wedi bod yn chwilio am y bachgen. Doedd neb wedi ei weld ers 1.15yp heddiw.