Hunan-bortread o'r arlunydd enwog Anthony van Dyck (o wefan wikipedia)
Pan brynodd offeiriad o Swydd Derby lun am £400 mewn siop yng Nghaer ddeng mlynedd yn ôl ychydig a feddyliodd ei fod wedi cael gafael ar y fath drysor celfyddydol.

Ar ôl i’r llun gael ei anfon at arbenigwyr fodd bynnag mae’r perchennog, y Tad Jamie MacLeod wedi cael gwybod ei fod yn un o luniau van Dyck a’i fod yn werth £400,000.

Roedd wedi mynd â’r llun i arddangosfa’r rhaglen The Antiques Roadshow y llynedd, ac roedd y cyflwynydd Fiona Bruce wedi credu y gallai fod gan van Dyck a threfnu i arbenigwyr ei astudio.

Y portread o’r 17eg ganrif yw’r llun mwyaf gwerthfawr i gael ei adnabod ar The Antiques Roadshow ers iddi gychwyn 36 blynedd yn ôl.

Anthony van Dyck oedd arlunydd llys mwyaf blaenllaw Lloegr o dan y Brenin Siarl I a chaiff ei ystyried yn un o feistri celf y cyfnod.

Portread o un o Ustusiaid Brwsel yw’r llun a chredir iddo gael ei baentio wrth i’r arlunydd baratoi ar gyfer darlun o saith o ustusiaid Brwsel a wnaeth yn 1634.

Dywedodd y Tad MacLeod mai ei fwriad yw gwerthu’r llun er mwyn prynu clychau newydd i’w eglwys.

Fe fydd yr hanes yn llawn i’w weld ar The Antiques Roadshow heno am 7 ar BBC1.