Y diweddar John Tavener
Mae un o gyfansoddwyr cyfoes mwya’ adnabyddus gwledydd Prydain, Syr John Tavener, wedi marw. Roedd yn 69 oed.

Fe gafodd ei arwyddo gan Apple – label band y Beatles – yn y 1960au, ac fe gafodd ei waith ei berfformio hefyd yn angladd Diana, Tywysoges Cymru, yn 1997.

Yn ôl datganiad, bu farw’n dawel yn ei gartre’ yn Child Okeford, Dorset, yn gynharach heddiw.