Mae mwy na 200 o bobol wedi dod i rali er mwyn protestio yn erbyn cyhoeddiad cwmni BAE ei fod yn mynd i roi’r gorau i adeiladu llongau yn Portsmnouth.

Fe fydd 940 o bobol yn colli eu gwaith yn yr iard yn y ddinas.

Fe gafodd rali dydd Sadwrn ei threfnu gan Gyngor Crefftau Portsmouth, yn dilyn y newydd fod y cwmni am ddisyddo cyfanswm o 1,775 o weithwyr – 835 yn Glasgow, Rosyth, a Filton ger Bryste, a 940 yn Portsmouth.

Mae disgwyl mwy o fanylion am y diswyddiadau pan fydd BAE a’r undebau llafur yn cynnal trafodaethau yr wythnos nesa’.