Côr y Cewri
Mae ymchwil archeolegol diweddar wedi canfod cysylltiad newydd rhwng Côr y Cewri yn Wiltshire a cherrig y Preseli.

Dr Richard Bevins o Amgueddfa Cymru, Dr Rob Ixer o Brifysgol Caerlŷr, a Dr Nick Pearce o Brifysgol Aberystwyth, yw’r tri sydd wedi bod yn cynnal yr ymchwil.

Maen nhw wedi dargafnod tebygrwydd cemegol rhwng y garreg rhyolit yng Nghôr y Cewri, a cherrig sydd wedi eu darganfod i’r gogledd o Fynyddoedd y Preseli, ger Pont Saeson.

Mae’r garreg rhyolit glas yn nodedig am ffurfio cylch mewnol a phedol mewnol Côr y Cewri, ond mae eu tarddiad wedi bod yn ddirgelwch mawr hyd yn hyn.

‘Cemegau’n cyfateb’

Bu Nick Pearce o Brifysgol Aberystwyth yn dadansoddi a chymharu samplau o greigiau yng Nghôr y Cewri â samplau o gerrig o ogledd Sir Benfro.

Yna roedd posib dadansoddi eu cyfansoddiad cemegol i weld o le’r oedden nhw’n dod.

“Mae’n union fel cymharu olion bysedd unfath,” meddai, “Nid oes modd gwahaniaethu rhwng cyfansoddiad cemegol y mwyn yn y ddwy sampl.”

Mae hyn yn profi tu hwnt i amheuaeth resymol, yn ôl Dr Nick Pearce, fod y rhyolit yng Nghôr y Cewri yn tarddu o Bont Saeson ar ochr ogleddol y Preseli.

Hanes y cysylltiad

Roedd cysylltiad rhwng Côr y Cewri a Sir Benfro wedi ei sefydlu mor bell yn ôl a’r 1920au, ers darganfod tarddiad y dolerit smotiog yn y Preseli.

Ond mae’r ymchwil diweddaraf yn cadarnhau fod cerrig gleision y rhyolitiaid a’r tywodfeini prin hefyd yn tarddu o’r un ardal.

Mae’r darganfyddiad diweddaraf, yn ôl Richard Bevins, yn ein helpu ni i ddeall sut a pham y cludwyd y cerrig gleision Cymreig i Gôr y Cewri”.

Yn y gorffennol, mae rhai wedi dadlau mai pobol oedd wedi cludo’r doleritau smotiog o dir uchel Mynydd y Preseli, i lawr i’r arfordir yn Aberdaugleddau, cyn eu cludo ar rafftiau ar hyd Môr Hafren ac afon Avon i Gôr y Cewri.

Ond mae Dr Richard Bevins yn amau hyn.

“Mae’n debygol erbyn hyn mai gwaith rhewlifau yn ystod oes yr ia ddiwethaf a gludodd y cerrig,” meddai.