Mae cyn dditectif preifat wedi cael ei arestio fel rhan o ymchwiliad cenedlaethol i honiadau o hacio cyfrifiaduron a honiadau eraill o amharu ar breifatrwydd.
Cafodd y dyn 58 mlwydd oed, sydd wedi ymddeol, ei arestio yn ei gartref yn Reading tua 7:45 bore ’ma ar amheuaeth o geisio cael mynediad at wybodaeth yn anghyfreithlon.
Dywedodd Scotland Yard bod y dyn wedi ei arestio am gynllwyn honedig i gyflawni gweithred, heb awdurdod, gyda’r bwriad o amharu ar y ffordd roedd y cyfrifiadur yn gweithio.
Mae 21 o bobl bellach wedi cael eu harestio fel rhan o Ymgyrch Tuleta, ymchwiliad gan Scotland Yard sy’n cael ei redeg ochr yn ochr ag achosion o hacio ffonau a thaliadau llwgr i swyddogion cyhoeddus.
Bu dadl ynglŷn â’r ymchwiliad rhwng ASau a’r heddlu ynghylch a ddylid cyhoeddi rhestr o gleientiaid ditectifs preifat twyllodrus.
Yn gynharach y mis hwn cafodd naw o enwau eu tynnu oddi ar y rhestr gan Scotland Yard, gan gynnwys pump oedd yn gysylltiedig ag Ymgyrch Tuleta, oherwydd eu bod yn rhan o ymchwiliad sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd.
Roedd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref yn San Steffan wedi bygwth cyhoeddi’r rhestr ond mae hynny nawr yn cael ei ail-ystyried ar ôl gwrthwynebiad gan SOCA, y Comisiynydd Gwybodaeth a’r Heddlu Metropolitan.