Mae dyn 22 mlwydd oed wedi ei gael yn euog o ladd organydd eglwys a gafodd ei guro i farwolaeth ar ei ffordd i offeren hanner nos ar Noswyl Nadolig yn Sheffield.
Cafwyd Ashley Foster yn euog o ddynladdiad gan y rheithgor yn Llys y Goron Sheffield ar ôl achos llys a glywodd sut yr ymosodwyd ar Alan Greaves ger ei gartref yn y ddinas.
Mae dyn arall, Jonathan Bowling, sydd hefyd yn 22, eisoes wedi cyfaddef llofruddio’r taid 68 mlwydd oed.
Bydd y ddau ddyn yn cael eu dedfrydu ddydd Gwener.
Camgymeriad y clerc
Bu dryswch yn y llys ar ôl i’r clerc ofyn i’r pen-rheithiwr os oedd Foster yn euog o lofruddiaeth.
Pan ddywedodd y pen-rheithiwr ei fod yn “ddieuog” bu dathliadau ymhlith teulu Foster.
Ond wrth i Maureen Greaves, gweddw’r dyn gafodd ei ladd, edrych mewn sioc gwaeddodd y pen-rheithiwr, a oedd eisoes wedi cael cais i eistedd, “ond yn euog o ddynladdiad.”
Ar y pwynt hwn dechreuodd gariad Ashley Foster, Natalie, feichio crio a rhedodd allan o’r llys yn sgrechian.
Roedd Maureen Greaves, 63, wedi eistedd drwy bob diwrnod o’r achos gyda llawer o aelodau o’r teulu.
Yn ystod yr achos tair wythnos a hanner, disgrifiodd yr erlynwyr sut y cafodd Alan Greaves ei guro’n ddifrifol gyda handlen bwyell ac arf arall sydd erioed wedi cael ei ganfod.
Dioddefodd anafiadau erchyll i’w ben a bu farw yn yr ysbyty dri diwrnod yn ddiweddarach gyda’i deulu o’i gwmpas.