Mae Tŷ’r Arglwyddi wedi pasio mesur a fydd yn caniatáu i gyplau lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru a Lloegr briodi o’r gwanwyn nesaf ymlaen.

Fe gafodd y Bil Priodasau (Cyplau o’r un Rhyw) ei drydydd darlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi ddoe a bydd nawr yn derbyn Cydsyniad Brenhinol ac yn dod yn ddeddf. Fe aeth y Bil drwy Dŷ’r Arglwyddi heb unrhyw welliannau o bwys gyda Thŷ’r Cyffredin yn cytuno i’r diwygiadau a wnaed yn Nhŷ’r Arglwyddi mewn dadl neithiwr.

Ymhlith y diwygiadau a gytunwyd yn Nhŷ’r Arglwyddi neithiwr oedd sicrhau fod pobl sy’n dewis newid eu rhyw yn cael aros yn briod.

Mae’r datblygiad yma wedi cael ei groesawu gan Gyfarwyddwr Stonewall Cymru, Andrew White.

Dywedodd: “Mae’n amhosibl cyfleu faint o lawenydd a ddaw i ddegau o filoedd o bobl hoyw a’u teuluoedd a’u ffrindiau yn sgil y cam hanesyddol hwn. Mae hynt y Bil drwy’r Senedd yn dangos, o’r diwedd, bod y mwyafrif o wleidyddion yn y ddau Dŷ’n cydnabod cefnogaeth y cyhoedd tuag at gydraddoldeb.”

Mae’r elusen gydraddoldeb hoyw Stonewall wedi bod yn ymgyrchu’n ddi-baid i geisio lobio gwleidyddion yn ystod pob cam o’r Bil Priodasau gan gyflwyno tystiolaeth i Bwyllgor y Bil yn Nhŷ’r Cyffredin.

Ond yn ystod y ddadl yn Nhŷ’r Cyffredin, gwawdiodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol Syr Gerald Howarth ymgais y llywodraeth i wthio’r Bil drwy’r Senedd.

Meddai: “Rwy’n credu y dylai’r Llywodraeth fod yn ofalus iawn yn y dyfodol os ydynt eisiau cefnogaeth y meinciau Ceidwadol. Nid yw digio rhan helaeth o’r Blaid Geidwadol yn ffordd dda o fynd o gwmpas pethau.”