Symud arch Margaret Thatcher o Balas Westminster
Mae angladd y Farwnes Thatcher wedi cael ei gynnal yng Nghadeirlan Sant Paul yn Llundain bore ma.

Ymhlith y gwesteion roedd y Frenhines a Dug Caeredin, a’r Prif Weinidog David Cameron.

Cafodd arch y cyn brif weinidog ei thywys o Balas Westminster i’r Gadeirlan gyda miloedd o bobl yn gwylio’r orymdaith angladdol.

Roedd y Strand wedi bod ar gau ers 8 o’r gloch, ac mae’r heddlu wedi bod yn goruchwylio’r strydoedd rhwng Palas Westminster a’r Gadeirlan.

Roedd pobol wedi bod yn ymgasglu ers 6.30am i wylio’r orymdaith.


Protestwyr yn troi eu cefnau wrth i'r orymdaith angladdol fynd heibio
Protestwyr

Ymgasglodd nifer o brotestwyr y bore yma i fynegi eu dicter am gost yr angladd, yn dilyn ymgyrch ar wefan gymdeithasol Facebook

Roedden nhw wedi troi eu cefn ar yr arch wrth iddi fynd heibio.

Ond mae eraill wedi galw am brotest chwaethus, gan gynnwys y cyn-filwr o Gymru, Simon Weston fu’n gwasanaethu yn ystod rhyfel y Falklands.

Dywedodd: “O ran protestiadau, mae gan bawb yr hawl i brotestio, ac mae hynny’n rhan o fyw mewn democratiaeth, ond y mater ydy a fydd pobol yn ei wneud mewn ffordd urddasol.”

Mae Phil Williams o Ogledd Cymru yn cludo baner ar y strydoedd yn dweud: “Gorffwysed mewn Cywilydd”.

Dywedodd nad oedd e’n gweld unrhyw beth o’i le ar brotestio mewn angladd.

“Edrychwch beth wnaeth hi i’r gogledd, y gweithfeydd dur, gwaith glo, treth y pen.

“Wnaeth hi dreialu’r holl bethau yna yn y gogledd a throi miliwn o bobol yn droseddwyr.”

Y gwesteion

Mae rhai o arweinyddion gwleidyddol mwyaf blaenllaw’r byd ymhlith y gwesteion yn angladd y Farwnes Thatcher.

Yn eu plith mae Prif Weinidog Kuwait, Sheikh Jaber Mubark Al-Sabah, Prif Weinidog Yr Eidal, Mario Monti, a Phrif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu.

Mae cyn-Brif Weinidogion Prydain, John Major a Tony Blair ymhlith y gwesteion hefyd.

Yno hefyd mae nifer o aelodau Cabinet Margaret Thatcher, gan gynnwys y cyn-Ganghellor, Syr Geoffrey Howe a’r Arglwydd Tebbit, ac Aelodau Seneddol presennol gan gynnwys y Farwnes Warsi, Danny Alexander, Ken Clarke ac Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Andrew Lansley.

Dywedodd Maer Llundain wrth Sky News: “Hyd yn oed i’w ffans a’i chefnogwyr fel fi, dwi ddim yn credu ein bod ni wedi disgwyl i gymaint o bobol ddod i ddangos eu hoffter a’u parch i Margaret Thatcher.”

Mae Prif Weindiog Cymru Carwyn Jones a’r Ysgrifennydd Gwladol David Jones yno hefyd.

Y tu allan i fyd gwleidyddiaeth, mae’r darlledwr Syr Terry Wogan, y cyfansoddwr Syr Tim Rice, yr awdur yr Arglwydd Archer, a’r gantores Katherine Jenkins hefyd yn bresennol.

Ond mae rhai absenoldebau amlwg hefyd.

Ymhlith y rheiny mae cyn-arweinydd yr Undeb Sofietaidd, Mikhail Gorbachev a Nancy Reagan, gwraig cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Ronald.

Teulu’r Farwnes Thatcher, gan gynnwys ei phlant Mark a Carol, a’i hwyrion Amanda a Michael sy’n arwain y galarwyr.