Fe fydd angladd y Farwnes Thatcher yn cael ei gynnal bore ma tra bod y dadlau’n parhau am ei hetifeddiaeth hi fel prif weinidog.

Mae disgwyl i filoedd o bobl gasglu ar strydoedd Llundain wrth i arch y cyn brif weinidog gael ei chludo i Gadeirlan Sant Paul’s.

Mae pobl eisoes wedi dechrau ymgasglu tu allan i’r Gadeirlan bore ma.

Fe fydd tua 2,000 o westeion yn yr angladd gan gynnwys y Frenhines, gwleidyddion o bedwar ban byd, rhai o’i chyn gydweithwyr a sêr amlwg gan gynnwys Shirley Bassey a Katherine Jenkins.

Fe fydd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones a’r Ysgrifennydd Gwladol David Jones hefyd yn bresennol.

Fe fydd arch y Farwnes Thatcher, fu farw ar 8 Ebrill yn 87 oed, yn gadael y senedd am y tro olaf bore ma. Neithiwr, bu 150 o westeion, gan gynnwys ei phlant Syr Mark a Carol Thatcher, mewn gwasanaeth preifat yng nghapel Sant Mary Undercroft.

Bydd yr arch yn gadael San Steffan mewn hers cyn cael ei drosglwyddo i goets dal gynnau ar gyfer y cymal olaf i gadeirlan Sant Paul.

Fe fydd aelodau o’r Gwarchodlu Cymreig ymhlith rhai o’r 700 o’r lluoedd arfog sy’n cymryd rhan yn yr angladd seremonïol gydag anrhydeddau milwrol llawn.

Ariannin

Mae llysgennad Yr Ariannin yn Llundain wedi gwrthod gwahoddiad i angladd y Farwnes Thatcher.

Cafodd Alicia Castro wahoddiad i’r angladd yfory, ond penderfynwyd peidio gwahodd yr Arlywydd, Cristina Fernandez de Kirchner oherwydd y tensiynau sy’n parhau am Ynysoedd y Falkland.

Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog, David Cameron mai “mater i lysgennad Yr Ariannin” oedd gwrthod y gwahoddiad.

Mae Downing Street hefyd wedi mynnu nad yw David Cameron yn siomedig gyda phenderfyniad Washington i beidio ag anfon gwleidyddion presennol blaenllaw i’r gwasanaeth.

Ond bydd dau o gyn-Ysgrifenyddion Gwladol yr Unol Daleithiau yn ystod cyfnod Margaret Thatcher yn bresennol, sef George Shultz a James Baker.

Mae disgwyl hefyd i’r Cyn-Ddirprwy Arlywydd, Dick Cheney a’r cyn-Ysgrifennydd Gwladol, Henry Kissinger fod yn bresennol.

Dywedodd llefarydd ar ran Downing Street eu bod nhw’n adolygu trefniadau diogelwch yn dilyn y ffrwydradau yn Boston nos Lun.