Arlywydd yr Ariannin, Cristina Fernandez de Kirchner
Mae llysgennad Yr Ariannin yn Llundain wedi gwrthod gwahoddiad i angladd y Farwnes Thatcher.

Cafodd Alicia Castro wahoddiad i’r angladd yfory, ond penderfynwyd peidio gwahodd yr Arlywydd, Cristina Fernandez de Kirchner.

Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog, David Cameron mai “mater i lysgennad Yr Ariannin” oedd gwrthod y gwahoddiad.

Mae cryn dipyn o drafod wedi bod yn y dyddiau diwethaf am y pwysigion sydd wedi eu gwahodd i’r angladd, fydd yn cael ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul.

Mae’r Unol Daleithiau wedi penderfynu na fydd gwleidyddion presennol blaenllaw yn mynychu’r gwasanaeth.

Ond bydd dau o gyn-Ysgrifenyddion Gwladol yr Unol Daleithiau yn ystod cyfnod Margaret Thatcher yn bresennol.

Mae disgwyl hefyd i’r Cyn-Ddirprwy Arlywydd, Dick Cheney a’r cyn-Ysgrifennydd Gwladol, Henry Kissinger fod yn bresennol.

Dywedodd llefarydd ar ran Downing Street eu bod nhw’n adolygu trefniadau diogelwch yn dilyn y ffrwydradau yn Boston neithiwr.

Mae arch y Farwnes Thatcher wedi’i chadw yng Nghapel y Senedd yn St Mary Undercroft tan ddydd Mercher.

Bydd gwasanaeth yn cael ei gynnal yn y capel heno cyn i’w harch gael ei chludo i’r Eglwys Gadeiriol ar gyfer yr angladd.