Holyrood
Fe fydd Senedd yr Alban yn trafod etifeddiaeth Margaret Thatcher ar yr union adeg y bydd angladd y cyn Brif Weinidog yn cael ei gynnal yn Llundain dydd Mercher.

Aelodau’r Blaid Werdd Albanaidd sydd wedi llwyddo i sicrhau’r ddadl ac mae’r teitl, “a oes yna unrhyw beth o hyd fel cymdeithas?” yn adleisio sylwadau wnaethpwyd gan y Fonesig Thatcher pan ddywedodd “Nid oes yr un peth a chymdeithas. Mae yna unigolion yn ddynion a merched. Ac mae yna deuluoedd.”

Mae’r Ceidwadwyr yn yr Alban wedi dweud bod cynnal y ddadl adeg yr angladd yn gwbl ddi-chwaeth ond dywedodd arweinydd y Blaid Werdd Albanaidd, Patrick Harvie bod gan Aelodau Senedd yr Alban berffaith hawl i gynnal dadl agored o’r fath wythnos wedi i Aelodau Seneddol dalu llu o deyrngedau iddi yn Nhy’r Cyffredin yr wythnos diwethaf.

“Mae Margaret Thatcher wedi marw,” meddai “ond y drasiedi o safbwynt nifer fawr o bobl yw bod Thatcheriaeth fel eidioleg yn parhau. Ein bwriad yw annog ystyriaeth onest o’r etifeddiaeth Thatcheraidd gan fod yr elfennau creiddiol – cystadleuaeth a hunanoldeb – yn parhau i gael effaith ar ein cymdeithas a’n economi.”

Mae’r aelodau Ceidwadol yn Holyrood yn bwriadu gofyn am ohirio’r ddadl tan ar ôl yr angladd ond mae aelodau’r SNP a Llafur yn bwriadu cymeryd rhan yn y drafodaeth sydd yn debygol o fod yn danllyd.

Gwraig Llefarydd  Tŷ‘r Cyffredin yn gwrthod mynd i’r angladd

Yn y cyfamser, mae’r aelod seneddol Llafur Sally Bercow wedi gwrthod gwahoddiad i fynd i’r angladd.

Roedd wedi cael gwahoddiad fel gwraig Llefarydd Tŷ‘r Cyffredin, John Bercow a dywedodd ei fod yn berffaith briodol iddo ef fynychu’r gwasanaeth yn Eglwys Gadeiriol St Paul yn rhinwedd ei swydd.

“Er fod yn ddrwg gen i bod y Farwnes Thatcher wedi marw ni alla’i fod yn ragrithiwr ac ymuno yn yr ymdrech yma i’w chanoneiddio,” meddai.

Cyhuddodd swyddfa 10 Downing Street o ryddhau manylion ei phenderfyniad i beidio mynd er mwyn tanseilio ei  gŵr yn wleidyddol.