Clorian Cyfiawnder
Mae Llywodraeth Prydain yn bwriadu cyhoeddi côd ymarfer newydd ar gyfer y rhai sydd yn dioddef oherwydd trosedd.

Yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder, bydd y côd newydd yn amlinellu yr hyn y gall dioddefwyr ei ddisgwyl o’r munud y mae nhw’n dweud wrth yr heddlu i ddiwedd unrhyw achos llys – ac fe fydd modd galw y drefn cyfiawnder troseddol i gyfrif os na fydd y cymorth cywir ar gael.

Bydd y côd hefyd yn cynnig cymorth ychwanegol i ddioddefwyr troseddau difrifol a chymorth arbenigol i bobl ifanc.

Fe fydd dioddefwyr yn cael cymorth i ganffd eu ffordd trwy system sy’n gymhleth ac yn aml yn arswydus meddai’r Gweinidog dros Droseddwyr, Helen Grant.

“Fe fydd y côd yn egluro’n glir beth y gall dioddefwyr ei ddisgwyl o’r system a chael gwybod at bwy i droi am gymorth os nad yw ar gael,” meddai

Pryder

Mae’r elsuen Cymorth i Ddioddefwyr wedi canmol y cynlluniau ar y cyfan ond hefyd wedi mynegi pryder na fydd pob dioddefwr yn cael cynnig cymorth gan mai dim ond y rhai “sydd ei angen fwyaf” fydd yn cael cynnig cymorth yn otomatig.

“Rydym yn poeni y bydd rhai dioddefwyr yn cael eu colli yn y drefn newydd,” meddai’r Prif Weithredwr Javed Khan. “Rydym yn mawr obeithio y bydd Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd, sydd gan gyfrifoldeb penodol am ddioddefwyr, yn mynd yn llawer pellach na hyn i sicrhau y bydd pob dioddefwr yn cael y gefnogaeth angenrheidiol pan mae nhw ei angen.”