Abu Qatada
Fe fydd y Llys Apêl yn ystyried cais gan yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May i wyrdroi’r penderfyniad i ganiatáu i’r clerigwr Abu Qatada aros ym Mhrydain.

Dywedodd cyfreithwyr ar ran Theresa May mewn gwrandawiad fod Qatada yn ddyn “gwirioneddol beryglus” a lwyddodd i osgoi cael ei alltudio oherwydd ffaeleddau cyfreithiol.

Cafodd Qatada wybod ym mis Tachwedd y byddai’n cael aros ym Mhrydain ar ôl i’r Comisiwn Apeliadau benderfynu nad oedd hi’n bosib alltudio Qatada i Wlad yr Iorddonen.

Yng ngwlad ei febyd, mae’n wynebu cyhuddiadau o derfysgaeth.

Mae cyfreithwyr ar ran Qatada yn honni na fyddai’n ddiogel iddo ddychwelyd i’r Iorddonen oherwydd bod modd defnyddio tystiolaeth yn ei erbyn gan ddau ddyn sy’n honni iddyn nhw gael eu harteithio.

Fe fydd y tri barnwr – yr Arglwydd Dyson, yr Arglwydd Ustus Richards a’r Arglwydd Ustus Elias yn penderfynu a ddylid derbyn apêl Theresa May.

Mae Abu Qatada yn y ddalfa ar hyn o bryd ar amheuaeth o fod â deunydd am derfysgaeth yn ei feddiant, a chafodd gwrandawiad mechnïaeth ei ohirio’r wythnos diwethaf.