Arglwydd Ustus Leveson (Llun: PA)
Fe fydd Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn uno gyda’i gilydd i wrthwynebu cynlluniau Llywodraeth Prydain tros reoli’r wasg.

Mae arweinyddion y ddwy blaid wedi ymateb yn chwyrn ar ôl i’r Prif Weinidog, David Cameron, roi’r gorau i drafodaethau rhwng y tair prif blaid.

Yn awr, mae disgwyl i Ed Miliband a Nick Clegg gyflwyno eu cynnig eu hunain er mwyn gweithredu argymhellion Adroddiad Leveson ar helynt yr hacio ffonau.

Siarter neu ddeddf

Mae David Cameron yn mynnu mai’r ateb yw Siarter Frenhinol a fydd, meddai, yn cyflawni amcanion Leveson heb gyfraith a allai beryglu rhyddid y wasg.

Ond mae Ed Miliband a Nick Clegg eisiau grym deddfwriaeth y tu cefn i unrhyw gorff newydd i gadw llygad ar y papurau newydd.

Fe fydd y cyfan yn dod i’r berw ddydd Llun pan fydd ASau’n pleidleisio ar y gwahanol gynigion.

Mae’r mudiad ymgyrchu Hacked Off a rhai o’r papurau sylweddol yn cefnogi cael deddf newydd i reoli’r wasg a’r rhan fwya’ o’r papurau’n cefnogi Cameron.