Disgwyl i’r rheol ar wisgo mygydau a chadw pellter ddod i ben yn Lloegr ar Orffennaf 19
Adroddiadau’n awgrymu y bydd Boris Johnson yn amlinellu’r llacio hyn yn ei ddiweddariad yr wythnos hon
Rhagweld atgasedd pe bai pobol sydd wedi cael dau ddos o frechlyn yn cael osgoi cwarantîn
Rhybudd gan ymgynghorydd gwyddonol
Nifer y cleifion sydd yn ysbytai Cymru gyda Covid ar ei isaf ers dechrau’r pandemig
Ond cyfradd yr achosion ar ei huchaf ers Chwefror 26
Brechu heb apwyntiadau mewn canolfannau ledled Cymru o’r penwythnos hwn ymlaen
Daw hyn wrth i’r Gweindiog Iechyd, Eluned Morgan, alw ar bob oedolyn i gael eu brechu
Galw am ychwanegu at restr symptomau Covid-19 Llywodraeth y Deyrnas Unedig
Mae blinder dwys, pen tost, gwddw tost a dolur rhydd yn gyffredin ymhlith pobol iau, medd aelod o bwyllgor Sage
Gweithio tuag at ddechrau darparu trydydd dosys o frechlynnau Covid-19 i bobol ym mis Medi
“Byddwn yn gweithio gyda’r byrddau iechyd i sicrhau eu bod yn barod i ddarparu rhaglen atgyfnerthu o ddechrau mis Medi ymlaen” medd …
Cyhuddo Llywodraeth Cymru o “laesu dwylo” wrth fynd i’r afael â dioddefwyr Covid hir
Dioddefwyr yn galw am sefydlu clinigau arbenigol i fynd i’r afael ag effeithiau tymor hir y firws
Safon gofal iechyd da er gwaethaf heriau Covid-19 yn ôl Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Ond effaith glir wedi bod ar lesiant staff a bydd yr her yn parhau wrth fynd i’r afael â’r ôl-groniad triniaethau, meddai’r corff
Covid 19: Dim marwolaethau’n cael eu cofnodi yng Nghymru am y tro cyntaf ers dechrau’r pandemig
Cafodd 102 o farwolaethau eu cofnodi yn Lloegr yn yr wythnos hyd at 18 Mehefin
Portiwgal yn cyflwyno cwarantîn i deithwyr o’r Deyrnas Unedig sydd heb gael dau frechlyn
Cyflwyno cyfyngiadau ar ymwelwyr o’r Deyrnas Unedig sydd am ymweld â Malta ac Ynysoedd y Balearig hefyd