Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd (Llun: Mick Lobb CCA 2.0)
Mae Bwrdd Iechyd wedi ymddiheuro wedi iddo ddod i’r amlwg bod corff dynes wedi ei gadw mewn ward yn un o’u hysbytai am wyth awr.

Mae’n debyg y bu farw dynes oedrannus yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd dros y penwythnos yn ystod y bore ac arhosodd ei chorff yn y ward tan y prynhawn.

Yn ôl un adroddiad bu farw am 7yb, ond ni chafodd y corff ei symud gan staff tan ddiwedd cyfnod ymweld y ward sef tua 4yh.

Mewn datganiad mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi nodi mai gwaith adeiladu yng nghorffdy’r ysbyty oedd yn gyfrifol am yr oedi.

Mae ymchwiliad i’r achos wedi cael ei chynnal ac mae teulu’r ddynes wedi cael gwybod am y digwyddiad.

“Ymddiheuriadau”

“Hoffwn ymddiheuro am unrhyw ofid gall fod wedi ei achosi,” meddai llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.

“Rydym wedi ymchwilio’r achos, ac yn anffodus ar y diwrnod yma gwnaeth gwaith adeiladu yn y corffdy ohirio’r broses o drosglwyddo’r claf.

“Rydym wedi trafod â’r teulu ac maen nhw’n ymwybodol o’r oedi a heb gyfleu unrhyw bryderon.”