Llun: PA
Mae mwy o bobl yn ceisio lladd eu hunain mewn carchardai nag ymhlith y boblogaeth yn gyffredinol, yn ôl ffigurau newydd sydd wedi’u cyhoeddi ar ddechrau Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.

Mae’r ffigurau gan yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai yn tanlinellu’r “angen brys” i’r llywodraeth nesaf fynd i’r afael a’r “gostyngiad sylweddol” mewn diogelwch a safonau mewn carchardai, meddai’r sefydliad.

Mae 46% o ferched a 21% o ddynion mewn carchardai wedi ceisio lladd eu hunain o’i gymharu â 6% o’r boblogaeth yn gyffredinol, yn ôl y ffigurau.

Dywed y sefydliad bod 49% o ferched a 23% o ddynion mewn carchardai wedi cael diagnosis o iselder neu boen meddwl, o’i gymharu â 15% o’r boblogaeth yn gyffredinol, tra bod 20-30% o droseddwyr gydag anawsterau dysgu neu anawsterau sy’n effeithio’u gallu i ddelio gyda’r system gyfiawnder troseddol.

Dywedodd Peter Dawson, cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai bod y ffigurau’n dangos bod angen rhagor o gefnogaeth ar gyfer pobl gydag anghenion iechyd meddwl ac anawsterau dysgu sydd mewn cysylltiad â’r gwasanaethau cyfiawnder troseddol.

Fis diwethaf, fe ddangosodd ffigurau bod mwy na 26,000 o ymosodiadau mewn carchardai yng Nghymru a Lloegr y llynedd, tua 70 ar gyfartaledd bob dydd.

Fe gynyddodd nifer y marwolaethau mewn carchardai i 344 yn ystod y 12 mis hyd at fis Mawrth, gyda 113 o’r rheiny yn hunanladdiadau.