(llun: PA)
Mae’r Prif Weinidog Theresa May yn dweud ei bod yn benderfynol o orfodi meddygon teulu yn Lloegr i weithio mwy er mwyn lleihau pwysau ar adrannau gofal brys mewn ysbytai.

Bwriad y Llywodraeth yw ei gwneud yn ofynnol i feddygfeydd teulu agor rhwng 8 y bore ac 8 y nos saith diwrnod yr wythnos os nad ydyn nhw’n gallu profi nad oes galw am hynny.

Gallai’r Llywodraeth osod amodau ariannol er mwyn gorfodi meddygon i gydymffurfio.

Mae pryder cynyddol fod cleifion yn troi at adrannau gofal brys am nad ydyn nhw’n gallu cael apwyntiadau gyda’u meddygon teulu.

Mae’r Gwasanaeth Iechyd yn amcangyfrif y byddai 30% o gleifion sy’n mynd i adrannau brys yn cael gofal mwy addas mewn adran arall o’r system.

Yn y cyfamser, mae ffigurau swyddogon yn dangos bod mwy na phedair ysbyty o bob 10 yn Lloegr wedi datgan iddyn nhw wynebu argyfwng yn ystod pedair wythnos gyntaf y flwyddyn oherwydd y pwysau cynyddol.